Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Swoosh - LLUNIO DYFODOL POSITIF 2011

LLUNIO DYFODOL POSITIF 2011

Gall cariad a pherthnasau fod yn anodd i ni i gyd, yn enwedig felly pan wyt ti yn dy arddegau. Gall pwysau gan gyfoedion weithiau wneud i ti wneud rhywbeth efallai nad wyt ti eisiau neu ymddwyn mewn ffordd sy’n groes i dy gymeriad fel arfer.




Dylai perthnasau fod yn llawn cariad, ymddiried, hwyl a chwerthin, gan wneud i chi’ch dau deimlo’n hapus ac hyderus. Dylai dy bartner dy garu am bwy wyt ti a dy drin di â pharch bob amser.

Mae ‘CARIAD’ yn rhan o’r ymgyrch ieuenctid ‘Llunio Dyfodol Positif’ a gynhelir yma ar Swoosh nes bo mis Mehefin 2012. Mae’r ymgyrch ‘CARIAD’ yn codi ymwybyddiaeth o gariad, perthnasau ac iechyd rhywiol hyd ddiwedd mis Rhagfyr 2011, gan gynnwys hyrwyddo positif, perthnasau iach ymhlith pobl ifanc, ymdrin â materion parch, cydsyniad, camdrin a ble i droi am gymorth a chefnogaeth.



Am beth mae CARIAD? Beth sy’n gwneud perthynas iach?

  1. Ymddiried
  2. Parch
  3. Ffyddlondeb
  4. Chwerthin
  5. Cyfeillgarwch
  6. Cyfathrebu
  7. Dealltwriaeth
  8. Cyfaddawdu
  9. Haelioni
  10. Bod yn ti dy hun!

Rwyt ti’n gallu dod o hyd i restr o sefydliadau defnyddiol isod os oes angen gwybdoaeth, cyngor neu arweiniad arnot ti. Rwyt ti hefyd yn gallu edrych ar yr adran ‘GWYBODAETH’ yma ar SWOOSH gyda fideo, cysylltiadau defnyddiol a llawer iawn mwy.



Taith Ymgyrch ‘CARIAD’

Rwyt ti’n gallu cymryd rhan yn y daith ymgyrch a gweithdai mewn ysgolion a chanolfannau ieuenctid penodol.

Diwrnod Gweithdy: Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr – Dydd Gwener Rhagfyr 2il 2011
Diwrnod Gweithdy – Ysgol Gyfun y Bontfaen – Dydd Iau Rhagfyr 8fed 2011

Dyddiadau Canolfannau Ieuenctid i ddilyn!



CYSTADLEUAETH!

Mae Swoosh www.swoosh.me.uk, yn cynnal yr ymgyrch ‘CARIAD’ ac angen i ti gymryd rhan! Lanlwytha dy waith creadigol a straeon yma ar Swoosh. Gall fod yn erthygl ysgrifenedig, cerdd, darn o gelf neu ffotograffiaeth – y mwya creadigol y gorau, rwyt ti hyd yn oed yn gallu lanlwytho fideo neu ddweud wrthon ni am fideo rwyt ti’n meddwl sydd o gymorth!

I gymryd rhan yn y gystadleuaeth ymgyrch ‘CARIAD’ lanlwytha dy gais i Swoosh. Rhaid iddo fe fod am gariad, perthnasau neu iechyd rhywiol a dewisir yr enillydd gan banel o feirniaid am y lanlwythiad mwyaf ysbrydoledig!

Y wobr am y lanwythiad mwyaf ysbrydoledig yw bag gwobrau dirgel gwerth £50 o dalebau, a phethau da eraill yr wyt ti’n gallu eu gwario a mwynhau gyda ffrind, neu eu cadw i gyd i ti dy hun!

Dyddiad cau y gystadleuaeth ymgyrch ‘CARIAD’ yw Rhagfyr 31ain 2011.



Sefydliadau DEFNYDDIOL – Cariad: Perthnasau ac Iechyd Rhywiol

Teen Issues UK
www.teenissues.co.uk
Gwefan llawn gwybodaeth am rhyw diogel, perthnasau a llawer iawn mwy.

Being Girl
www.beinggirl.co.uk
Gwefan wedi ei anelu at fenywod ifainc gyda chyngor am y corff, rhyw a materion iechyd.

Brook
www.brook.org.uk
0808 802 1234
Gwybodaeth gyfrinachol ac am ddim iechyd rhywiol ac atal cenhedlu i bobl ifanc.

Stonewall Cymru
0800 502 020
www.stonewallcymru.org.uk
Elusen Cenhedlaethol Blaengar LHD sy’n cynnig cymorth, cyngor a chefnogaeth i bobl ifanc yng Nghymru.

Terrance Higgins Trust
www.tht.org.uk
Elusen mwyaf blaengar HIV ac iechyd rhwiol yn y DU. Yn cynnig cyngor a chefnogaeth i bobl ifanc.

Bursting The Bubble
www.burstingthebubble.com
Gwybodaeth i bobl ifanc yn eu harddegau am gamdrin, trais yn y cartref a sut i gael cymorth.

Cymorth i Ferched Cymru
0808 80 10 800
www.welshwomensaid.org
Yn darparu cymorth, cefnogaeth a gwybodaeth i fenywod a menywod ifainc sy’n byw gyda thrais yn y cartref.

Atal y Fro
www.atalyfro.org
Sefydliad lleol wedi’i leoli ym Mro Morgannwg sy’n gweithio gyda theuluoedd a phobl ifanc i dorri’r cylch o drais yn y cartref.

Meic
080880 23456
www.meiccymru.org
Cyngor cyfrinachol ac am ddim ar y ffôn neu arlein i bobl ifanc 0-25 oed.

CLIConline
www.cliconline.co.uk
Safle cenedlaethol i bobl ifanc rhwng 11-25 oed gydag adrannau ar deulu a pherthnasau, gan gynnwys iechyd rhywiol. Hefyd rhestr defnyddiol o sefydliadau.

Swoosh
www.swoosh.me.uk
Rhan o rwydwaith CLICarlein, gwefan i bobl ifanc 11-25 oed wedi ei leoli ym Mro Morgannwg, gydag adrannau am deulu, perthnasau, a rhestrau o sefydliadau defnyddiol.



Ariannwyd gan : Gwasanaethau Ieuenctid Y Fro

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50