Gwybodaeth » Addysg » Yn Yr Ysgol 11-16 - Cyflwyniad » Cychwyn yn yr Ysgol Uwchradd
Gall mynd i ysgol gyfun neu ysgol uwchradd fod yn gyffrous iawn ond gall hefyd fod ychydig yn frawychus ar y dechrau. Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu:
Pan fyddwch ym Mlwyddyn 6 yn yr ysgol gynradd, mae’n debyg y cewch gyfle i fynd i ymweld â’ch ysgol newydd. Os cewch chi’r cyfle, gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd; bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’8 r ffordd fyddwch chi’n teimlo.
Os bydd rhaid ichi ddefnyddio gwasanaeth bws neu’r trên i deithio i’r ysgol, efallai eich bod yn poeni am hyn. Gofynnwch i’ch rhieni neu ofalwr a allan nhw’ch helpu i fynd ar deithiau i ymarfer yn ystod gwyliau’r ysgol. Bydd hyn yn eich helpu i deimlo’n fwy hyderus pan ddaw’r tymor newydd.
Cyn i’r tymor newydd ddechrau, cytunwch â’ch rhieni ynglŷn â’r hyn y dylech ei wneud petaech chi’n methu’r bws neu petai argyfwng yn codi. Mae gwybod beth i’w wneud yn gwneud popeth yn llai brawychus.
Mae’n debyg bod yr ysgol newydd yn fwy o lawer na’ch hen ysgol a bydd yn rhaid ichi ddysgu lle mae popeth - peidiwch â phoeni, buan y dewch o hyd i’ch ffordd o gwmpas, a bydd pawb arall ym Mlwyddyn 7 yn yr un sefyllfa.
Bydd llawer o blant sy’n fwy o ran maint ac yn hŷn na chi yn yr ysgol - gall hyn godi ofn ar y dechrau ond buan y dewch i arfer â nhw.
Bydd yn rhaid ichi ddod i arfer â chael amserlen a gwahanol athrawon yn eich dysgu ar gyfer gwahanol bynciau.
Gall fod y rheolau ychydig yn fwy caeth na phan roeddech chi yn yr ysgol gynradd.
Ymgartrefu
Yn gyntaf, rhowch amser i chi’ch hun i ddod i arfer â’r peth - allwch chi ddim disgwyl teimlo’n gartrefol yn syth. Bydd llawer o bobl yn cymryd o leiaf yr hanner tymor cyntaf i ddechrau teimlo’n gartrefol.
Os byddwch chi’n dal i gael problemau wrth ymgartrefu yn eich ysgol newydd ar ôl hanner tymor mis Hydref, ceisiwch siarad â’ch rhieni neu’ch athrawon am y peth.
Efallai na fyddwch chi’n hoffi pob pwnc, neu efallai na fyddwch chi’n cyd-dynnu â phob athro neu â phob disgybl arall. Mae hyn yn eithaf arferol - ond er lles eich addysg, mae’n bwysig ceisio gwneud y gorau ohono. Am bob pwnc neu berson nad ydych chi’n eu hoffi, bydd mwy o lawer y byddwch yn hoff ohonyn nhw.
Os ydych chi’n cael eich bwlio, darllenwch ein herthygl ar fwlio am awgrymiadau ynglŷn â sut i ddelio â hyn.
Os ydych chi’n cael problemau ac yn teimlo na allwch chi siarad ag unrhyw un gartref nac yn yr ysgol, gallech ffonio Childline ar 0800 1111 neu ewch i Childline


