Croeso i Swoosh! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Lansiad Tîm Ieuenctid Stryd y Fro / V-POD + PULSE

Postiwyd gan Ferniec5 o Bro Morgannwg - Cyhoeddwyd ar 20/07/2010 am 16:02
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Celfyddyd, Ysgrifennu Creadigol, Addysg, Cerddoriaeth, Teithio

  • dom at vpod
  • Gordon Kemp at vpod
  • vpod launch
  • motional control at vpod
  • tony h at vpod
  • vpod

English version

Gyda’i dyluniadau graffeg a’i offer technoleg uwch y V-POD oedd yr atyniad mawr yn lansiad Tîm Ieuenctid Stryd y Fro – Dydd Iau 15fed Gorffennaf 2010.

Mae’r V-POD yn ffurfio rhan o bartneriaeth rhwng Vibe Experience (sy’n rheoli’r bws) a Gwasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg sydd yn rhedeg y PULSE Tîm Gwaith Ieuenctid Datgysylltiedig.

Amcanion V-POD

Mae’r V-POD i bobl sydd efallai ddim wedi cael y pleser o wybod amdano eto, mae’n fws dec sengl ANFERTH sydd wedi cael ei wneud drwy gwmpasu ffocws yr unigolion ifanc sydd yn byw ym Mro Morgannwg. Mae’r V-POD yn creu gweithgareddau ac adloniant cynhyrfus i bobl ifanc sydd efallai wedi’i diflasu, mae’n helpu i’w cadw’n ddiogel a hefyd yn brwydro troseddu. Mae’n anelu i leihau troseddau anghyfreithlon ac ymddygiad anghymdeithasol gan bobl ifanc 8-25 oed. Mae’r V-POD a Thîm Ieuenctid Stryd Bro Morgannwg eisiau helpu’r gymuned drwy roi rhywbeth yn ôl, nid prif rannau’r Fro, ond hefyd i rannau gwledig ac i bobl sydd efallai ddim efo cyfle i ddod ynghlwm â rhywbeth fel hyn. Ac mae’n gwneud yr union hyn.

Ymglymiad Ieuenctid

Mae’r bws wedi creu rhywbeth cŵl a newydd i bobl ifanc a hyd yn hyn mae wedi cael ymateb da iawn o’i brawf-rediad. Mae’r V-POD wedi’i greu gydag ymglymiad dros 2000 o bobl ifanc ac maent wedi helpu dylunio’r logo, enw a steil y bws. Mae’r V-POD wedi creu platfform gwych iddynt adeiladu arno a dysgu sgiliau newydd, mae gweithgareddau grêt arno ac mae’n llwyddiant ysgubol.

Nodweddion

Gyda’i graffeg liwgar a dirgrynol mae’r bws wedi cael ei ddylunio gyda chymorth y genhedlaeth ifanc, yn siarad allan a rhannu eu barn. Mae’r tu fewn wedi cael ei addasu i edrych fel clwb nos ddyfodolaidd wych. Mae’n dod efo deciau, stiwdio recordio, cyfrifiaduron apple imac, lloeren a llawer mwy o bethau cerddorol. Mae hefyd yn cynnwys dau PS3, Wii, Xbox 360 a dros 16 o sgriniau teledu i wylio popeth. Mae gymaint mwy o ddyfeisiau ar y bws sydd yn grêt i ddefnyddio. Mae’r goleuadau yn cynnig awyrgylch tawel ond cŵl ac mae’r criw sy’n rhedeg y bws yn gallu rhoi gwybodaeth, cyngor, gweithdai, hyfforddiant a gweithgareddau datblygiad addysg.

Y lansiad swyddogol

Gyda thorf gynhyrfus a disgwyliedig yn gwylio roedd pobl wedi rhyfeddu i weld y bws dec sengl yn y warws agored gyda’r goleuadau yn tynnu sylw at y bws, roedd yr ystafell yn gynnwrf. Siaradodd y tîm oedd yn gyfrifol am gychwyn y prosiect grêt yma am yr amcanion a’r rhoddion oedd gan y bws. Roedd y tîm yn falch ac wedi cynhyrfu am y V-Pod a fedraf ddweud bod y bws wedi cael ei lansio yn swyddogol.

Y Gymuned

Efallai bod yr V-Pod yn dod i ardal yn agos i ti, bydd yn sicr o fod yn llwyddiant mawr yr haf hwn a gyda’i system sŵn ergydiol bydd yn chwarae’r caneuon poblogaidd yr haf. Bydd y bws yn teithio o gwmpas y Fro felly cadwa lygaid allan am yr atyniad mawr hwn a gobeithio dy fod yn cael amser gwych ar y peth mawr prydferth, ond os oes gen ti unrhyw gwestiynau neu eisiau mwy o wybodaeth am leoliadau’r bws neu eisiau darganfod mwy cysyllta gyda Vibe Experience ar www.vibeexperience.com neu e-bost: Bazz@vibeexperience.com neu galwa: 01446 733622 (ex 15)

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.